Europe index

Testament Newydd





Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; Rhufeiniaid 3:23

Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Rhufeiniaid 6:23

Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duy ydyw: Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Effesiaid 2:8-9

A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint a chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. S. Luc 18:13

Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. S. Ioan 3:16-17

Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyda'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. I Corinthiaid 10:13

Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth griad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhufeiniaid 8:38-39

Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy'n credu. Rhufeiniaid 10:4

(Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) II Corinthiaid 6:2

Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wr frodyr, beth a wnawn ni? A Phedr a ddywedodd wrythynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. Yr Actau 2:37-38

A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Effesiaid 4:24

Rhufeiniaid

Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; Rhufeiniaid 3:23

Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: Rhufeiniaid 3:10

Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Rhufeiniaid 6:23

Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: Rhufeiniaid 5:12

Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Rhufeiniaid 5:6

Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Rhufeiniaid 5:8

Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw: Rhufeiniaid 1:4

Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Rhufeiniaid 6:9

Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Rhufeiniaid 10:9

Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Rhufeiniaid 10:13

Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth griad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhufeiniaid 8:38-39


Ein Tad

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. S. Mathew 6:9-13


Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Awgustus Cesar, i drethu'r holl fyd. (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) A phawb a aethant i'w trethu, bob un i'w ddinas ei hun. A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinnas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o d a thylwyth Dafydd), I'w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. A hi a esgorodd ar ei mab cyntafanedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety. Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofn yn ddirfawr a wnaethant. A'r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl: Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd. A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb. Ac yn ddisymwth yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. A phawb a'r a'i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt. S. Luc 2:1-20

Tawel nos dros y byd
Llyfr Genesis 1-3

Europe index

My appreciation to Wizzle for some of the background material.